

Cafwyd noson arbennig iawn i gychwyn yr ŵyl eleni, a phawb wedi mwynhau yn fawr. Roedd Crazy Mountain People, ein band ifanc o Benmachno, yn gychwyn gwych i’r noson. Dyma fand y bydd rhaid i ni edrych allan amdanynt yn y blynyddoedd nesaf!!!
Yna daeth Geraint Løvgreen a’r Enw Da i gloi’r noson. Mae rhain wedi hen arfer ein diddanu, ac roedd Nos Sadwrn yn wych, gyda Geraint Løvgreen wedi cael criw o’i seddau ac i’r blaen i ddawnsio.
Gobeithio fydd y nosweithiau nesaf yr ru’n mor lwyddiannus.
