Hanes
Newyddion
Oriel
Rhestr
Hanes

Daeth criw o bobl at ei gilydd ddiwedd 2002 i drafod cynnal gwyl yn Llanrwst, gwyl fyddai’n digwydd yn Gymraeg ond yn agored i bawb, a fyddai’n mynd ag adloniant – yn fandiau a dramau a llenyddiaeth – yn ogystal a gweithgareddau amrywiol – yn gemau pel-droed, cystadlaethau bon braich, steddfodau tafarn – allan o wyliau trefnus, traddodiadol, ac at stepan ddrws pobl.

Y canlyniad oedd Llanast Llanrwst, a chafodd y cyntaf ei chynnal yn 2003, yn nhafarndai, ysgolion, canolfannau, caeau a strydoedd ardal Llanrwst, i blant, bobl ifanc, oedolion o bob oed, ar gyfer dysgwyr, siaradwyr Cymraeg ac unrhyw un oedd ag awydd cymryd rhan, gwylio, gwrando, neu jyst anwybyddu popeth a dod allan i weld pwy arall oedd o gwmpas.

Mae Llanast Llanrwst wedi digwydd bob blwyddyn ers 2003. Yn ystod yr amser hwnnw, beth bynnag, mae pethau wedi newid ers yr wyl gyntaf, gyda’i wythnos o weithgareddau ym mis Tachwedd, a’r diweddlgo ffrwydrol ar ddydd Sadwrn olaf y Llanast. Un o amcanion gwreiddiol Llanast Llanrwst oedd creu rhaglen o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn, ac mae’n araf symud i’r cyfeiriad hwnnw, gyda fersiwn 2008 & 2009 yn rhedeg o fis Hydref tan ddechrau Rhagfyr.

Wrh ddechrau gyda chefnogaeth ymarferol ac ariannol gwahanol sefydliadau, erbyn hyn mae’r grwp yn gweithredu bron yn hollol wirfoddol, dan arweiniad pobl Llanrwst a’r ardal. Mae hefyd yn cydweithio gyda phobl fel Clwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy, Clwb Rygbi Nant Conwy, Clwb Gwerin Dyffryn Conwy, yr Urdd, TWF, Mudiad Ysgolion Meithrin, ysgolion a busnesau lleol, Cyngor Sir Conwy, Menter Iaith Conwy a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Y gobaith yw y bydd Llanast Llanrwst yn tyfu i fod yn grwp sefydlog fydd yn trefnu digwyddiadau o’r fath yn y dref am flynyddoedd i ddod.

2009 | 2008 | 2007 | 2006 | 2005 | 2004 | 2003