Hanes
Newyddion
Oriel
Rhestr
Cyfarfod Llanast Llanrwst 2010
Dydd Mawrth 12 Ionawr 2010, 10:42

Mae’r cyfarfod Nos Fercher 20fed o Ionawr am 6yh yn swyddfa Menter Iaith Conwy, Llanrwst, wedi cael ei ohirio. Byddwn yn cyfarfod eto Nos Fawrth 26ain o Ionawr yn swyddfa Menter Iaith (Amser i ddilyn)



Stomp
Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2009, 13:50

Cafwyd noson i’w chofio yn y Legion Nos Wener y 20fed o Dachwedd. Roeddem yng nghwmni beirdd talentog Cymru.

Roedd y gynulleidfa yn chwerthin drwy’r nos wrth wrando ar y beirdd yn adrodd rhai o’u cerddi.

Enillyd Stomp Llanast Llanrwst 2009 oedd Osian Rhys Jones gyda’i ddwy gerdd “Cusan Jorizo (Iberico)” a “Cân y Llamhidydd”, cafodd Stol oedd yn rhodd gan “Tank” o Lanrwst fel gwobr.

Stomp 2009

Osian Rhys Jones yn derbyn Stol Stomp '09 gan Arwel "Pod" Roberts

Gobeithio y cawn noson llawn hwyl eto yn Stomp 2010!!



Sesiwn Stori Gwyneth Glyn
Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2009, 11:48

Yn anffodus rydym wedi gorfod gohirio ymweliad Gwyneth Glyn dydd Sadwrn. Gobeithio y byddwn yn gallu ail drefnu’r sesiwn yn y flwyddyn newydd.



Gig Geraint Løvgreen a’r Enw Da & Crazy Mountain People
Dydd Gwener 16 Hydref 2009, 15:08

Cafwyd noson arbennig iawn i gychwyn yr ŵyl eleni, a phawb wedi mwynhau yn fawr. Roedd Crazy Mountain People, ein band ifanc o Benmachno, yn gychwyn gwych i’r noson. Dyma fand y bydd rhaid i ni edrych allan amdanynt yn y blynyddoedd nesaf!!!

Yna daeth Geraint Løvgreen a’r Enw Da i gloi’r noson. Mae rhain wedi hen arfer ein diddanu, ac roedd Nos Sadwrn yn wych, gyda Geraint Løvgreen wedi cael criw o’i seddau ac i’r blaen i ddawnsio.

Gobeithio fydd y nosweithiau nesaf yr ru’n mor lwyddiannus.



Crysau T
Dydd Llun 12 Ionawr 2009, 10:31

Mae crysau T Llanast Llanrwst ar werth rwan!

Crysau ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ yn dathlu’r dref a geiriau un o fandiau gorau Cymru erioed, Y Cyrff.

tshirt

Meintiau: Canolig a Mawr (ieuenctid), Bach, Canolig, Mawr (Wedi gwerthu allan)!! a Mawr Iawn (oedolion).

Pris: £12.00

Ar werth ym Menter Iaith Conwy, Y Sgwar, Llanrwst.