Cynhaliwyd Pwyllgor Llanast Llanrwst ar Ionawr 17eg yn Swyddfa Menter Iaith Conwy am 5yh. Cytunwyd yn unfrydol i’r swyddogion presenol aros yn eu swyddi. Os oes unrhyw un eisiau gweld cyfrifon y flwyddyn mae croeso i chi ddod i Menter Iaith Conwy i’w gweld.
Dyma’r hanes:
LLANAST LLANRWST 2011
Cafwyd gŵyl lwyddiannus iawn eleni yn Llanrwst a hoffai’r pwyllgor ddiolch i bawb a wnaeth gefnogi.
Cychwynnodd yr ŵyl yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy gyda Llanast y Beirdd. Roedd Myrddin yn cadw trefn ar y beirdd wrth iddynt gystadlu i gyrraedd y brig, y timau oedd Llangernyw a’r Fro a oedd yn cynnwys Dafydd Emrys Williams, Huw Roberts, Gwenno Davies a Dafydd Chilton, tim arall o Langwm gyda Gwion Lynch, Huw Dylan, Arwel Emlyn Jones ac Andrea Parry a thîm o Ysbyty Ifan a oedd yn cynnwys Eryl Pyrs, John Jones, Dafydd Tŷ Uchaf a Heledd Glyn yn darllen ar ran Shân Pandy Coch ac Ann P.
Cawsom noson llawn hwyl a dyma i chi rai o’r cystadlaethau:
1. Pennill rhydd i gyfarch cystadleuydd ar Fferm Ffactor :
Llangernyw:
Su’ mai Wa! Mi wnest ti’n dda i guro’r sioe ‘ne uffe’n,
Ti’n ddiawl o un mae’n rhaid ‘rhen ddyn, yn geiliog ar y domen.
Y Lyci dyc! Cei bick-up truck am ennill, un sbon danlli,
“A ffôr, twin cab, five door, op-en top Mitsabushi”.
Bydd pawb yn siŵr o ‘nabod gŵr fel ti, ac am dy gyfarch…
Yn sêl yn dre, ac yn Wynnstay, yndê, a Pet Place, w’rach.
Anghofiwch chi am Trebor E, neu am Dai Jones fel arwr
Mae hwn yn well, yn well o bell, mae hwn yn Ffowc o ffarmwr.
Llangwm:
Er dy fod ti eisiau
Isuzu newydd sbon
Sa well ti Daloni Metcalf
Mae ‘chassis’ gwell ar hon
2. Pennill telyn (hen bennill) yn cynnwys y llinell: Du yw’r mis a llwyd yw’r niwloedd
Llangernyw:
Du yw’r mis a Llwyd yw’r niwloedd
Gwynder croesau yma’n gannoedd
Plygu pen mewn hwyrol weddi
Gwaed y machlud fel y pabi
Ysbyty Ifan:
Du yw’r mis a Llwyd yw’r niwloedd
Oer yw’r clychau iâ yn rhengoedd
Mae yr ias yn brathu i’r eitha
Pan ddaw’r meirwon tuag adra.
3. Englyn cywaith – englyn ar gerdyn post o rywle o ddewis y tim i ddisgrifio gwyliau sâl a gafwyd yno
Llangwm:
Teulu bach mae’r Taliban – yn hunllef
O swnllyd ym mhobman
Mae eu bomiau’n bwm bwmian
Nes down o Affganistan
Ysbyty Ifan:
Annwyl mam rwyf ar gamel, – Iesu wir
Mae’r Sahara’n gythrel,
Go hir yw’r daith i’r gorwel
Ia hwyl wir, dwi’n sownd, wel, wel.
Roedd hi’n gystadleuaeth agos iawn gyda Llangernyw a’r fro yn cipio gwobr Llanast y Beirdd 2011, gobeithio y cawn noson mor hwyliog y flwyddyn nesaf, diolch yn fawr i’r Myrddin, Y Beirdd ar gynulleidfa.
Brynhawn Sadwrn cafwyd sesiwn stori a chân gyda Gwyneth Glyn yng Nghaffi Contessa. Daeth 22 o blant bach gyda’u teuluoedd yno i wrando, roedd y caffi yn orlawn. Roedd Gwyneth yn dweud hanesion y caneuon a chanu ambell i gan oddi ar ei halbwm newydd ac ambell i gan plant.
Yna daeth y Sesiwn Llanast ei hun. Braf oedd gweld tref Llanrwst yn orlawn gyda phobl yn symud o amgylch y tafarndai. Cychwynnwyd y noson gyda set gan Gwyneth Glyn, Sarah Louise a Sian Miriam yn Pen y Bont, yna ymlaen i’r New Inn at Mr Huw, Crash! Disco a Eilir Pierce. Wedyn i gloriannu’r noson cafwyd y Moniars yn y Llew Coch a Jen Jeniro a Sen Segur yn Pen y Bryn. Roedd dros 500 o bobl yn Llanrwst nos Sadwrn, rhai wedi teithio o Dolgellau, Pwllheli a Sir Fon. Llanast llwyddiannus iawn i fusnesau ar economi yn Llanrwst.
Nos Fercher y 30ain o Dachwedd cafwyd noson hwyliog ar gyfer y bobl ifanc yng nghystadleuaeth Dros Ben Llestri. Roedd y bobl ifanc yn mwynhau a llongyfarchiadau i Aelwyd Llansannan am ddod yn fuddugol.
Hoffem ddiolch fel pwyllgor i Cyngor Celfyddydau a Prosiect Goleuo sydd yn cael ei ariannu gan gynllun Datblygu Gwledig Conwy am eu nawdd ar gyfer yr Ŵyl.
Gobeithiwn bydd Llanast Llanrwst 2012 yr ru’n mor lwyddiannus. Os oes gennych ddiddordeb bod yn rhan o bwyllgor yr ŵyl cysylltwch â Esyllt Tudur, Swyddfa Menter Iaith 01492 642357.
Cafwyd noson i’w chofio yn y Legion Nos Wener y 20fed o Dachwedd. Roeddem yng nghwmni beirdd talentog Cymru.
Roedd y gynulleidfa yn chwerthin drwy’r nos wrth wrando ar y beirdd yn adrodd rhai o’u cerddi.
Enillyd Stomp Llanast Llanrwst 2009 oedd Osian Rhys Jones gyda’i ddwy gerdd “Cusan Jorizo (Iberico)” a “Cân y Llamhidydd”, cafodd Stol oedd yn rhodd gan “Tank” o Lanrwst fel gwobr.

Osian Rhys Jones yn derbyn Stol Stomp '09 gan Arwel "Pod" Roberts
Gobeithio y cawn noson llawn hwyl eto yn Stomp 2010!!
-
Yn anffodus rydym wedi gorfod gohirio ymweliad Gwyneth Glyn dydd Sadwrn. Gobeithio y byddwn yn gallu ail drefnu’r sesiwn yn y flwyddyn newydd.
Mae crysau T Llanast Llanrwst ar werth rwan!
Crysau ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ yn dathlu’r dref a geiriau un o fandiau gorau Cymru erioed, Y Cyrff.

Meintiau: Canolig a Mawr (ieuenctid), Bach, Canolig, Mawr (Wedi gwerthu allan)!! a Mawr Iawn (oedolion).
Pris: £12.00
Ar werth ym Menter Iaith Conwy, Y Sgwar, Llanrwst.